P-04-454 : Gwahardd yr Arfer o Ddal Swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un Pryd

Geiriad y ddeiseb:

Mae’r deisebydd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer y mae saith Aelod Cynulliad yn ei ddilyn ar hyn o bryd sef dal DWY swydd etholedig ar yr un pryd, sef swydd fel Cynghorydd o fewn awdurdodaeth Cymru yn ogystal â swydd fel Aelod Cynulliad etholedig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Prif ddeisebydd: Nortridge Perrott

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Ionawr 2013

Nifer y llofnodion: 52